Gwaith Alun

by: Alun

Publisher: DigiLibraries.com
ISBN: N/A
Language: English
Published: 3 months ago
Downloads: 3

Download options:

  • 509.52 KB
  • 1008.03 KB
*You are licensed to use downloaded books strictly for personal use. Duplication of the material is prohibited unless you have received explicit permission from the author or publisher. You may not plagiarize, redistribute, translate, host on other websites, or sell the downloaded content.

Description:


Excerpt

Rhagymadrodd.

Ganwyd John Blackwell (Alun) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797.  Un o Langwm oedd ei fam—gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i’r seiat a’r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau.  Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau â’i fachgen.

Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd.  Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai’n aml i Gaer i chwilio’r siopau.  Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd.  Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter.

Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru.  Yn Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a’r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda’i awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda’i awdl Maes Garmon yn yr olaf.  Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.

Yn 1824 aeth i’r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i afon Hafren.  Yma dysgai Ladin a Groeg gyda’r ficer, y Parch. Thomas Richards.  Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach.  Clerigwyr pobtu’r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri.  Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg.

Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828.  Ymdrechodd yn galed; a’i fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd.  Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.

Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.

Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon.  Bu yno, yn fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro.  Yn 1834 cychwynodd y Cylchgrawn, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a phur.  Yr oedd y Gwladgarwr eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais.  Ond ychydig elynion fu iddo.  Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd.

Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi.  Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.

Eos Cymru oedd Alun,—yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei genedl.

OWEN M. EDWARDS.
Ebrill 9, 1909.

[Ceisiwyd trefnu’r darnau mor agos ag y gellid i’w trefn amseryddol.]

I.  Y WYDDGRUG.  1797-1824.

Iddo Ef
Angau
Cymdeithas Caer
Dau Englyn Priodas
Genedigaeth Iorwerth II.
Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr
Llwydd Groeg
Eisteddfod Caerwys
Dafydd Ionawr
Gwyl Ddewi
Eisteddfod y Wydderug
Rhywun
Maes Garmon

II.  ABERIW.  1824....